June 12, 2019

Cysylltu Cymru

News

Mae cwmni arobryn FourNet, Partner Cwmwl Rhyngwladol Avaya a Phartner Arloesi y Flwyddyn, wedi arwyddo cytundeb i lunio platfform canolfan gyswllt a rennir ar gyfer Cynghorau ledled Cymru.

Bydd y fenter hon a ariennir gan Lywodraeth Cymru, o’r enw Cysylltu Cymru, yn caniatáu i sefydliadau sector cyhoeddus gael mynediad i blatfform digidol modern a fydd yn fforddiadwy ac yn effeithlon, gan wella profiad y dinasyddion. Drwy roi cwsmeriaid wrth wraidd eu sefydliad, gall cynghorau Cymru roi mwy o reolaeth i’w dinasyddion dros y gwasanaethau maent yn eu derbyn a mynediad i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt. Bydd y platfform a rennir hefyd yn galluogi’r gwaith o ddatblygu cydweithio effeithiol rhwng sefydliadau sector cyhoeddus.

Mae gan Gynghorau Bro Morgannwg a Wrecsam strategaeth i ehangu’r gwasanaethau ar-lein sydd ar gael i gwsmeriaid a sicrhau eu bod yn syml ac yn effeithiol i’w defnyddio. Mae Bro Morgannwg yn gweithredu fel yr awdurdod arweiniol ar gyfer y platfform cyswllt a rennir a fydd ar gael i awdurdodau eraill dan gontract ac i’r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru hefyd.

Caiff y datrysiad ei integreiddio i blatfform ‘Agile Cloud’ FourNet. Mae Agile Cloud FourNet yn darparu gwasanaethau Cyfathrebu Unedig a Chanolfan Gyswllt i sefydliadau llywodraeth leol a chanolog, sydd yn eu tro, yn annog dulliau syml, gwydnwch a chynhyrchiant defnyddwyr o fewn eu strategaeth cyfathrebu.

Mae FourNet wedi bod yn darparu ei blatfform FourNet Agile Cloud Unified Communications as a Service (UCaaS) sydd wedi ennill gwobrau i nifer gynyddol o sefydliadau sector cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys ei ddatrysiad gwasanaethau a rennir Llywodraeth Ganolog y DU o’r enw ANTENNA, sy’n darparu gwasanaeth canolfan gyswllt a chyfathrebu unedig a gynhelir, a hynny o un pen i’r llall, sy’n cael ei weithredu drwy gyfrwng canolfannau data deuol a achredir gan PSN ac y gellir ei ehangu i dros 350,000 o ddefnyddwyr.


“Rydym yn gyffrous iawn o gael gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg a’r holl bartneriaid drwy Fwrdd Cysylltu Cymru i wireddu eu gweledigaeth i wella profiad cwsmeriaid o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru drwy gydweithio yn sgil y datrysiad canolfan gyswllt a rennir. Mae hyblygrwydd ein platfform Agile Cloud sy’n sail i’r gwasanaeth yn golygu y gallwn sicrhau ein bod yn bodloni ystod eang o ofynion y gwasanaethau a rennir ac yn rhoi’r cyfle i fodloni unrhyw ofynion yn y dyfodol.”

Richard Pennington, Rheolwr Gyfarwyddwr – FourNet


“This is a project that seeks to deliver an efficient digital solution that is capable of being scaled up across the Welsh public sector. This represents a fantastic opportunity to deliver a shared service approach that brings with it substantial benefits for organisations and customers alike”

Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr – Cyngor Bro Morgannwg


“Mae’r project hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd awdurdodau lleol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill yn cydweithio. Rwy’n falch iawn bod arian Llywodraeth Cymru yn helpu gwasanaethau llywodraeth leol i gydweithio, gan eu galluogi i ddatblygu a defnyddio technoleg arloesol i ddarparu gwell gwasanaeth i’w cwsmeriaid a hwyluso swyddi eu staff. ”

Julie James, Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol